Suliau Sych a Deddf 1881


Suliau Sych
Ni ellid prynu alcohol ym Mhrydain ar foreau Sul (yn ystod gwasanaethau dwyfol) o 1848 a gostyngwyd oriau agor ar y Suliau ym 1854 ac fe newidiodd eto ym 1855. Roedd y rhain ymhlith nifer fawr o gynigion i wahardd holl werthiannau alcohol ym Mhrydain ar ddydd Sul. Pasiwyd Deddf ym 1853 i wahardd gwerthiant alcohol yn yr Alban ar ddydd Sul a chaeodd Deddfau tebyg dafarndai yn Iwerddon ar ddydd Sul o 1878 ymlaen ac yng Nghymru o 1881 ymlaen. Fodd bynnag, roedd gan y rheiny oedd wedi teithio dros dair milltir ar ddydd Sul hawl i brynu alcohol mewn tafarndai gyda thrwyddedau saith niwrnod yr wythnos. Dywedir bod hyn wedi arwain pobl i deithio ar y trên o Aberystwyth i Borth (9 milltir) ar ddydd Sul er mwyn prynu diodydd yno. O ganlyniad, diddymwyd y terfyn tair milltir ym 1890, ac roedd rhaid i’r teithwyr brofi eu bod yn mynd ar daith am reswm ar wahân i gael diod.
(Lambert, W.R., 'The Welsh Sunday Closing Act, 1881'. Welsh History Review, 6/2, 1972, 161-189).
Caniatawyd Clybiau Trwyddedig a sefydliadau tebyg i werthu alcohol i’w haelodau ar ddydd Sul.
Diddymwyd y Ddeddf ar gyfer Cymru ym 1961, ac ar ôl hynny gallai siroedd, yna ardaloedd bleidleisio o blaid parhau’n ‘sych’ neu fynd yn ‘wlyb’ (gweler isod).

Creodd ddyfodiad y rheilffyrdd yn y 1860au dyndra rhwng y Sabathyddion, oherwydd roedd rhai ohonynt am gyfyngu ar deithio a gweithgareddau eraill ar wahân i fynychu lleoedd addoli a’r cwmnïau rheilffyrdd a redai trenau gwibdaith arbennig ar ddydd Sul, sef yr unig ddiwrnod y gallai llawer o’r dosbarthiadau gweithiol ymweld â glan y môr. Mae angen gwneud ymchwil o ran i ba raddau yr oedd tafarndai mewn trefi glan môr fel Aberystwyth ac Aberaeron yn aros ar agor ar ddydd Sul i fodloni anghenion y gwibdeithwyr. Rhoddwyd trwyddedau o 6 neu 7 niwrnod i dafarndai, i eithrio neu gynnwys dydd Sul.


Llanbadarn Fawr Petty Sessions
Mr J. J. W. Bonsall remarked that publicans would now have license to sell for six days only, but if they applied for a seven days' license they could supply bona fide travellers on Sunday, but the holders of six day's licenses could not supply anyone on Sunday.
The Cambrian News and Merionethshire Standard, 1st September 1882



O’r 294 tafarndy a restrwyd ym 1905, roedd gan bron i ddwy ran o dair (192) drwyddedau 6 diwrnod.
Lle nifer y diwrnodau o drwydded
Place number of day’s licence
6 7
Aberaeron 11 7
Aberystwyth 26 25
Borth 2 3
Aberteifi 28 5
Lampeter 9 7
Llandysul 1 7
Cei Newydd 9 1
Tregaron 11 2


Ym 1885, datganodd adroddiad yn Lloegr:
Sunday is treated as a day of recreation as well as rest while in Wales, owing to the arduous nature of religious exercises, Sunday is neither a day of rest nor recreation and as a result, the Aberystwyth Wednesday half-holiday was supported.
Cambrian News 25.9.1885


Ym 1889, pasiodd Corfforaeth Aberystwyth y cynnig canlynol:
‘In the opinion of the Council, the Welsh Sunday Closing Act has been a decided success in the town and district, and in order to make it still more effective, the distance limit for the bona fide traveller should be increased from three to ten miles, or the distance all together eliminated and that all premises where intoxicating liquors are sold should be brought under the control of the police’.
Cofnodion Cyngor Tref Aberystwyth, 21.10.1889 Archifdy Ceredigion


Mae’r ffaith fod yr ymgyrch i gyfyngu ar werthiant diodydd meddwol ar y Sul wedi parhau ar ôl 1881 wedi dangos bod ffyrdd o gwmpas y gyfraith. Roedd gan bobl leol amryw ddulliau o brynu diodydd ar y Sul, yn enwedig mewn clybiau lleol. Ym 1894, anogodd cangen Aberystwyth Cymdeithas Ddirwestol Merched Prydain y Gorfforaeth i ystyried gostwng gwerthiant alcohol ar eu heiddo (gan gynnwys nifer fawr o dafarndai a brydleswyd ganddynt i ddalwyr trwydded). O ganlyniad, gofynnodd y Gorfforaeth i Bwyllgor Trwyddedu’r Sir wrthod ceisiadau i werthu gwirodydd meddwol ar Graig Lais pan oedd cynlluniau ar gyfer ei ddatblygiad yn cael eu hystyried. (cofnodion y Cyngor Tref. 19.6.1894; 16.10.1894)

Roedd clybiau’n gymwys am drwyddedau dan Ddeddf Cau ar y Sul Cymru 1881
Roedd y rhan fwyaf o’r clybiau yn wreiddiol ar gyfer dynion, chwaraeon, staff prifysgol, myfyrwyr, cyn-filwyr.
Ni roddwyd trwyddedau i’r rhan fwyaf o’r bobl hynny yn Aberaeron tan y 1960au.
Aeron Coast Caravan Park
Jalopy Club
Sports Club
Yacht Club
Rugby Club (from 1988)
Pengloyn, Tabernacle Street (Ken and Nancy Swetman) Closed in the 1970s
Hirondelle 21 Market Street (John Thomas) Closed 1994
(Mair Lloyd Evans and Mair Harrison, The Ins and Outs of the Inns of Aberayron, 2013)


Parhaodd Ceredigion yn sych (hynny yw, caewyd y rhan fwyaf o’r tafarndai) ar y Suliau o 1881 tan i breswylwyr y sir bleidleisio o blaid fod yn wlyb ym 1989. Ceredigion oedd yr ardal olaf ond un ym Mhrydain i ganiatáu i alcohol gael ei werthu mewn Tafarndai ar y Suliau. Gallai’r cyhoedd bleidleisio o blaid y mater bob saith mlynedd o 1961 ymlaen ond pleidleisiodd 10-2 o Gyngor y Dref o blaid diwygio deddfau trwyddedu Cymru mor gynnar â 1957 (Cambrian News 29.11.1957). Ym 1982, pleidleisiodd yr ardal o blaid aros yn sych gan nifer fach iawn (10,882 i 10,125) (ymddangosodd 44%) (Western Mail 8.11.1982) ond ym 1989, cafwyd nifer debyg o blaid mynd yn wlyb (10,961 i 10,133) (ymddangosodd 41%) (Cardigan and Teifiside Advertiser 17.11.1989)

Pleidleisiau o blaid agor tafarndai yng Nghymru
Siroedd
blwyddyn yn erbyn o blaid
1961 8 5
1968 5 8
Ardaloedd
1975 6 31
1982 2 (Ceredigion and Dwyfor) 35
1989 1 (Dwyfor) 26
1996 1 (Dwyfor)

2003 dim rhagor o refferenda dan ddeddf trwyddedu 2003

Taflen 'Enough is enough' yn ymgyrchu am bleidlais ‘Na’ yn refferendwm 1989 ar agor tafarndai ar ddydd Sul yng Ngheredigion. (Archifdy Ceredigion ADX/944)