Swyddogaethau cymunedol Safleoedd Trwyddedig


Hwyrach y bu gan y tai tafarn mwyaf ym mhob tref ystafelloedd darllen lle’r oedd papurau newydd a llyfrau ar gael. Roedd gan rai ystafelloedd dawnsio ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, yn enwedig pan oedd Brawdlysoedd yn y dref ac yn yr hydref pan arhosai’r bonedd yn eu tai tref eu hunain; pan fyddai rasys ceffylau’n cael eu trefnu gerllaw ac ar gyfer achlysuron arbennig eraill. Roedd gan rai fyrddau biliards ac ystafelloedd i chwarae cardiau, gwrando ar gyngherddau a darlithoedd neu gynnal arddangosfeydd.

Cyn 1834, cynhaliwyd etholiadau Seneddol yn aml mewn un tŷ tafarn ym mhob sir, lle honnir y darparwyd alcohol gan yr ymgeiswyr i’r etholwyr.

Bu Tafarndai a Thai Tafarn yn lleoliadau hefyd ar gyfer:

Llysoedd Ynadon a’u cyfarfodydd Llys Chwarter a Sesiwn Fach;
Beirniaid a’u gosgordd wrth deithio Cymru i glywed achosion o droseddau difrifol;
Cwestau i farwolaeth pobl;
Cyfarfodydd cynghorau Tref a Phlwyf;
cyfarfodydd Cwmnïau Tyrpeg a Harbwr a chwmnïau Rheilffyrdd;
Cyfarfodydd comisiynwyr y degwm;
cyfarfodydd Cymdeithasau Cyfeillgar lleol;
cyfarfodydd rheolaidd eraill (yn aml o ddynion yn unig fel clybiau chwaraeon ac ati);
ciniawau blynyddol;
digwyddiadau arbennig (fel dathlu Dydd Gŵyl Dewi, coroniadau a dod i oed neu briodas etifedd ystadau lleol);
Swyddfeydd Cyllid y Wlad (e.e. Tregaron a Feathers Hotel, Aberaeron ym 1868);
talu dynion mewn diwydiannau lleol (system dryciau);
casglu rhenti;
cyfarfodydd teithwyr masnachol a’u cwsmeriaid;
cyfarfodydd hela llwynogod a dyfrgwn;
porthmyn a chneifwyr defaid;
Ocsiynau

Darparon nhw hefyd:

ceffylau postio (a logwyd i fynd â cherbydau o gam i gam)
cyfleusterau i yrwyr a theithwyr coetsis mawr a phost.

Enghreifftiau:
Amserlen Sesiwn Fach Tre’r Ddol ar gyfer 1892, i’w gynnal yn yr Halfway Inn, Tre’r Ddol. (Archifdy Ceredigion, ANC/25/addl 4)

E.T. PRICE, 'Pregethu mewn tafarn, bwrw golwg dros ddwy ganrif.' Llawlyfr Cymdeithas Ceredigion, (Llundain, 1968-70), Cyf.23, tud 21-3.