Dyddiadau agor a chau


Yn aml iawn, mae’n anodd iawn cadarnhau pryd defnyddiwyd safle fel tafarndy am y tro cyntaf. Mewn theori, dylai pobman oedd yn gwerthu alcohol fod wedi cofrestru gyda’r Llys Chwarter (rhagflaenwyr y Cynghorau Sir); y Sesiwn Fach neu Bwyllgor Trwyddedu’r Sir ond ymddengys nad oedd hyn yn cael ei wneud bob amser a dim ond rhai o’u cofnodion sydd wedi goroesi.

Yn yr un modd, bu hi’n anodd rhoi’r dyddiad pan gaewyd y dafarn oni ei fod yn un o ryw 100 a gaewyd dan Ddeddf 1904 rhwng 1906 a 1938.

Fel rheol, y dyddiadau a roddwyd ar y wefan hon oedd y dyddiadau cyntaf ac olaf a gofnodwyd (oni fod y dyddiad wedi’i farcio yn y cofnod fel ‘union’). Hyd yn oed wedyn, hwyrach nad yw’r dyddiadau’n hollol ddibynadwy.

Mae sawl problem o ran bod yn fanwl gywir ynghylch dyddiadau:

Newidiwyd enwau’r tafarndai.
Ni chafodd pob tafarndy enwau yn yr amryw gofnodion (er enghraifft, gallai ffurflenni’r cyfrifiad gofnodi ‘gwerthwr cwrw dihopys’ ac nid enw tafarndy).
Yn aml, dim ond prif swydd pennaeth preswylwyr adeilad oedd y ffurflenni Cyfrifiad yn ei gofnodi, a hwyrach y byddai gwerthu cwrw dihopys wedi bod yn swydd eilaidd.
Hwyrach na fyddai tafarndy wedi bod ar agor adeg rhoi dogfen benodol at ei gilydd.
Nid yw pob ffurflen cyfrifiad a chofnodion eraill yn gyflawn nac yn ddarllenadwy.
Nid oedd ffurflenni’r Cyfrifiad yn cynnwys manylion swyddi’r preswylwyr cyn 1841 ac nid ydynt ar gael am 100 mlynedd ar ôl eu casglu (nid oes yr un ar gael ar ôl 1911). Mae’r dyddiadau diweddaraf ar gyfer llawer o gofnodion tafarndai’n ymddangos hyd yma i 1891 oherwydd rhoddwyd y rhestrau ar wefan llyfrgell Ceredigion at ei gilydd cyn i ffurflenni cyfrifiad 1901 a 1911 ddod ar gael.
Nid oedd cyfeiriaduron masnach yn cynnwys pob safle trwyddedig – mwy na thebyg roeddent ond yn cynnwys y rhai a dalodd i gael eu rhestru.