Briwedd-dai a Bragdai yng Ngheredigion


Roedd llawer o dafarndai a ffermydd yn bragu eu cwrw dihopys a’u cwrw eu hunain. Roedd ambell i fragdy graddfa fawr yn y sir.

Briwedd-dai a Bragdai yn Aberystwyth
Roedd llawer o dafarndai’n bragu eu cwrw eu hunain a daeth hyn yn broblem pan gyflenwyd dŵr pibell am y tro cyntaf i’r dref o 1835 ymlaen. Ym 1837, gofynnwyd i’r swyddogion tollau ddarparu’r swm o gwrw dihopys a chwrw oedd yn cael ei fragu gan dafarnwyr yn y dref i Gomisiynwyr Gwella Aberystwyth (a osododd y cyflenwad dŵr) er mwyn i’r Comisiynwyr allu rheoleiddio swm y rhenti i’w talu am y cyflenwad dŵr.
(Orders and Proceedings of the Commissioners of the Aberystwyth Improvements and Water Works, NLW, ABR, B2(a), 14th November 1837).
Mae rhestr o safleoedd y darparwyd dŵr iddynt gan Gomisiynwyr Gwella Aberystwyth o 1837 yn rhestru 50 tafarndy, 8 briwedd-dy a 2 fragdy, ond nid yw’n rhoi unrhyw syniad o safon y cwrw dihopys a’r cwrw a gynhyrchir gan bob un.
(Archifdy Ceredigion)

Roedd bragwyr gyda rhwydweithiau dosbarthu lleol, rhanbarthol neu genedlaethol yn berchen ar dafarnau neu’n neu brydlesu yng Ngheredigion, gan gynnwys:
David Roberts; Allsopps; City Brewery (Litchfield), Ltd; Worthington and Co., Hancocks; Brains.