Oriau agor


Roedd Deddf Tai Cwrw 1840 yn gofyn i dafarndai gau am hanner nos mewn trefi ac am 11pm mewn ardaloedd gwledig ond roedden nhw hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar oriau agor byrrach os oeddent yn dymuno.

Cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, yr oriau agor arferol oedd 6am i 11pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn mewn trefi ac o 6am i 10pm yng nghefn gwlad.

Y Rhyfel Byd Cyntaf
Roedd yr awdurdodau’n poeni’n enbyd am oriau agor hir yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Awgrymodd Lloyd George fod ‘diod yn gwneud mwy o ddifrod i ni yn y rhyfel na holl longau tanfor yr Almaen wedi’u rhoi at ei gilydd’. Daeth llawer o filwyr i Aberystwyth yn ystod y rhyfel i gael eu hyfforddi ac roedd modd iddynt brynu diodydd trwy gydol y dydd.
Galluogodd Deddf Amddiffyn y Deyrnas a’r Ddeddf Cyfyngiadau Dros Dro i awdurdodau lleol leihau’r oriau agor hyn. Argymhellodd Prif Gwnstabl Sir Aberteifi y gellid prynu alcohol rhwng 10am a 10pm yn Aberystwyth yn unig.
ORIAU TAFARNDAI.
A special meeting of justices took place on Wednesday for the purpose of receiving the recommendation of the Chief Constable [of Cardiganshire] with regard to the restriction of hours for the sale of intoxicating liquors. At present public houses in the borough [of Aberystwyth] close at eleven p.m., and in the rural area at ten p.m. … the Chief Constable recommended that all the public houses in the borough should open at ten a.m. and close at ten p.m., and in the rural districts at ten a.m. and close at nine p.m. The Chairman thought it well that the public should understand that the houses were not closed for the sale of food, but for intoxicating liquors only. They could get their breakfast before ten a.m. It was proposed that the recommendation of the Chief Constable be adopted. The Chief Constable explained that the order would come into force immediately it had been confirmed by the Secretary of State.
Cambrian News and Merionethshire Standard, 16 Ebrill 1915


Ym mis Chwefror 1916, gostyngodd Bwrdd Rheoli’r Llywodraeth (oedd â grymoedd dros lawer o Loegr a Chymru gyfan) oriau agor mewn tafarndai a chlybiau i:
12-2.30 pm a 6-9pm, neu 6.30-9.30 pm ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn
12.30-2.30 pm a 6-9pm ar ddydd Sul. (Gallai tafarndai gyda thrwydded 7 niwrnod weini teithwyr diffuant).

Ym mis Mawrth 1919, estynnwyd yr oriau gyda’r nos: 6-9.30 pm a gallai preswylwyr gwesty neu glwb brynu alcohol gyda phryd bwyd tan 11pm.
Deufis yn ddiweddarach, gallai’r tafarnau aros yn agored tan 10pm.
Ym mis Gorffennaf 1920, estynnwyd oriau’r Sul yn ystod yr haf o 7-10pm, ac yn fuan rhoddwyd yr oriau hyn ar waith i’r flwyddyn gyfan.

Estynnwyd Deddf Trwyddedu 1921 yr oriau agor unwaith eto: 11.30 am – 3 pm a 5.30-10pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a 12.30-2.30 pm a 7-10 pm ar y Sul. Roedd yr oriau hyn mewn grym tan sesiwn nesaf y pwyllgor trwyddedu lleol a allai eu diwygio cyhyd â nad oeddent yn ymestyn cyfanswm nifer yr oriau agor.

Erbyn diwedd y 1980au, roedd gan dafarndai hawl i werthu alcohol unrhyw bryd rhwng 11am ac 11pm.
Galluogodd Deddf Trwyddedu 2003, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2005, i dafarnwyr wneud cais am drwyddedau am hyd at 24 awr y dydd.