Explore the database

The database currently contains details of 1002 pubs and other premises, 256 places and 209 people. There are also 329 photos and postcards, 80 pub signs, 672 newspaper articles, 253 maps and 104 documents. About 134 pubs are still open.

Use the options below to search the database.

N.B. Some pubs do not appear on the maps as we do not have a definite location for them.

Quick search

    Search for:
    Browse the database     Advanced search

Letter about temperance / Llythr am ddirwest


Source: Brython Cymreig 04/03/1892       Date: 1892
Copyright:       Type: Newspaper
Description: Response to an earlier article suggesting the need for a reading room as an alternative to the pubs. Writer wonders why no Temperance society has been established in the village when they are in other nearby villages. Suggests that earlier suggestion of temperance meetings after the Sunday evening services would be a waste, as most young people only go there to meet each other.

Transcript:
PENRHIWLLAN. At Olygydd ye BRYTHON. Syr,-Y ddogn gyntaf oedd gan Ohebydd Penrhiwllan tuag at ein gwella o afiechyd y dablen oedd cael Reading Room yn y gymydogaeth. Byddaf barod law a chalon i wneuthur fy rhan tuag at ddwyn hyn oddiamgylch. Ond os yw ein hafiechyd wedi gwreiddio yn ein cyfansoddiad fel ag y darlunir ef gan y gohebydd, ofnaf y bydd yn rhy wan i'n hadferyd i'n cynefinol iechyd.
Yr ail ddogn oedd cael cyfarfodydd anenwadol o duedd ddirwestol ar ol cyfarfod chwech nos Suliau. Gan y byddai yn hwyr ar y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal, tueddir fi i gredu y byddai ein pobl ieuainc yn cymeryd mantais i ddyfod yno yn unig er mwyn gweled eu gilydd, a thrwy hyny y byddai moesoldeb y cyfryw gyfarfodydd yn cael eu hameu, yn enwedig gyda gelynion dirwest, a thrwy hyny ladd y dogn yma eto.
Caniatewch i minau, fel quack, gael cynyg y trydydd dogn. Paham nad ellid cael cymdeithas ddirwestol dan nawdd pob capel ac Eglwys yn y gymydogaeth, fel ag y mae yr Ysgol Sul ? Y mae yn Llanfair-Orllwyn gewri mewn dirwest. Paham, fechgyn Llanfair, na fuasech yn cychwyn cangen o'r Gymdeithas Ddirwestol Eglwysig yn eich plwyf ? Credaf nad eich culni at y gymdeithas (am ei bod yn cymeryd dan ei nawdd yr adran gymedrol, y rhai a eilw y gohebydd yn llymeitwyr) yw yr achos? Ati, ynte, fechgyn Llanfair, gwaith ac nid siarad, ac o bosibl y codwch awydd ar Eglwysi llai dirwestol i ddilyn eich hesiampl. Yr eiddoch, &c., QUACK.
Notes:
Linked to
Penrhiwllan/