Explore the database

The database currently contains details of 1002 pubs and other premises, 256 places and 209 people. There are also 329 photos and postcards, 80 pub signs, 672 newspaper articles, 253 maps and 104 documents. About 134 pubs are still open.

Use the options below to search the database.

N.B. Some pubs do not appear on the maps as we do not have a definite location for them.

Quick search

    Search for:
    Browse the database     Advanced search

Grand dinners in Llanarth / Cinio mawr yn nhafarndai Llanarth


Source: Yr Amserau 27/01/1857       Date: 1857
Copyright:       Type: Newspaper
Description: Celebrations for the coming of age of R L Lloyd, Nantgwyllt. Dinners held in the Penybont and Red Lion, and a tea for the children in the Greyhound.

Transcript:
CINIAW MAWR YN LLANARTH.-Ar y 9fed o'r mis hwn cyfarfu tua 70 o ddeiliaid Thomas Lewis Lloyd, Nantgwyllt, Ysw., yn y lle uchod, er mwyn dangos parch i'w meistr, yr etifedd a'r teulu, ar ddyfodiad yr etifedd R. L. Lloyd, i'w oed. Am 4 o'r gloch boreu y diwrnod uchod, dechreuodd clychau hen eglwys y plwyf ddatgan llawenydd y deiliaid ar yr achlysur, a chwareu teg iddynt, buont yn ffyddlon iawn trwy ystod y dydd. Oddeutu haner dydd, neu cyn hyny, dechreuodd y deiliaid ymdyru at eu gilydd yn y pentref; yna wedi eu dyfod oll ynghyd cydymgyfranogasant o giniaw danteithiol a barotowyd erbyn yr achlysur, y naill ran yn Penybont a'r rhan arall yn y Red Lion. Ar yr un pryd yr oedd Thomas Evans, Pontbrendu, yn rhoddi te i 69 o blant bychain Ysgol Sabbothol Llwyncelyn (yr hwn sydd ar dir Nantgwyllt), yn y Greyhound, tafarn arall yn yr un pentref. Wedi iddynt (sef y plant) orphen yfed eu te ffurfiwyd hwynt yn orymdaith, a cherddasant drwy y pentref gan waeddi yn groch, "Lloyd, Nantgwyllt, for ever," &c. Wedi hyn aeth y plant a'r deiliaid gyda eu gilydd i'r ysgoldy perthynol i'r Ymneillduwyr yn y pentref, lie y bu amryw o'r deiliaid-Thos. Evans, Pontbrendu, ac eraill yn areithio yn frwd ar wahanol rinweddau Lloyd, Nantgwyllt, fel tirfeddianydd, a'i anmhleidgarwch yn rhoddi tir at wasanaeth cynulleidfaoedd y Wern a Llwyncelyn i godi addoldai, ac hefyd dymuno llwyddiant tymhorol ac ysprydol yr etifedd a'r rhan arall o'r teulu. Wrth derfynu gellir dweyd yn ddibetrus ar goedd Cymru nad oes ei ragorach fel tirfeddianydd yn un rhan o'r Dywysogaeth-dyna farn unfrydol ei ddeiliaid, tystiant hyny trwy ddangos parch iddo ar eu traul eu hunain.
Notes:
Linked to
Greyhound , Llanarth
Llanarth (p)/

Total: 1