Ffynonellau ar gyfer ymchwil i hanes Tafarndai


Defnyddiwyd sawl ffynhonnell wahanol i adeiladu cronfa ddata’r tafarndai ond nid yw absenoldeb tafarndy ar restr yn arwydd o’i absenoldeb mewn gwirionedd – nid oedd pob rhestr yn gynhwysfawr. Roedd y rhai oedd yn gwasanaethu’r fasnach dwristaidd yn hysbysebu’n gyson mewn Papurau Newydd, Cyfeiriaduron Masnach ac Arweinlyfrau ond nid oedd angen i’r rhai oedd ond yn gwasanaethu’r boblogaeth leol wario arian ar hysbysebu.
Mae chwiliadau systematig ar gyfer rhai mannau (Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llanon, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan, Ceinewydd) wedi’u seilio ar gyfeiriaduron masnach (1830au – 1920 gan mwyaf), ffurflenni’r cyfrifiad (1841-1911), a rhai arweinlyfrau (1840-1960au) sy’n cynnwys hysbysebion.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys:
Rhestr 1905
Pwyllgor Trwyddedu’r Sir, 1905-1938
Cofnodion Clerc y Cyngor Sir
Cyfeiriaduron masnach
Papurau newydd
Ffynonellau eraill
Rhestr o safleoedd y darparwyd dŵr iddynt gan Gomisiynwyr Gwella Aberystwyth, 1837-1865
Rhestr Cymdeithasau Cyfeillgar Pratt o 1846
Rhestr o’r holl drwyddedau a roddwyd i werthu diodydd meddwl yng nghannoedd Ilar, 1889-1924
Ffurflenni Cyfrifiad
Cyfeiriaduron Topograffig
Arweinlyfrau
Papurau cyfreithiol
Papurau ystadau
Rhestrau o Drethdalwyr
Mapiau

Rhestr 1905
Dychwelyd tafarndai ym mhob Adran Sesiwn Fach yn sir Aberteifi. Ionawr 1905. (Archifdy Ceredigion, Aberystwyth, TPS/1/1 wedi’i argraffu).
Mwy na thebyg bod hon yn rhestr gyflawn o’r holl safleoedd sydd wedi’u trwyddedu i werthu alcohol yn y sir, a roddwyd at ei gilydd i gynorthwyo Pwyllgor Trwyddedu’r Sir i benderfynu pa dafarndai dylid eu cau dan ddeddf 1904. Mae’n cynnwys 305 cofnod, y mae 14 ohonynt yn siopau diodydd.

Pwyllgor Trwyddedu’r Sir, 1905-1938 (Archifdy Ceredigion, Cards/QS/L/1)
Mae hwn yn rhestru’r tafarndai y gwrthododd y Pwyllgor Trwyddedu adnewyddu trwyddedau, er mwyn gostwng nifer y tafarndai yn y sir dan Ddeddf Seneddol 1904. Talwyd iawndal i’r trwyddedigion a’r perchnogion gan Gyllid y Wlad, gydag arian yn cael ei godi trwy ardoll ar bob safle trwyddedig.
Dim ond y llyfr cofnodion cyntaf o’r pwyllgor hwn sydd wedi goroesi: mae’n cwmpasu’r cyfnod 1905-1938. Erbyn 1938 (y cofnod olaf yn y gyfrol), caewyd bron i 100 o dafarndai fel hyn – traean o’r rhai oedd ar agor ym 1905.

Cofnodion Clerc y Cyngor Sir
Bwndel o ohebiaeth yn ymwneud â thrwyddedu tafarndai yn Sir Aberteifi, 1910-1912 (Archifdy Ceredigion, CDC/SE/14/2)
Mae’r bwndel hwn yn oroesiad ffodus o’r papurau oedd yn ofynnol gan y pwyllgor at ddibenion penderfynu pa dafarndai dylid eu cau dan Ddeddf 1904, ar gyfer rhai tafarndai yn y Sir yn oddeutu 1911. Mae’n cynnwys:
Ffurflenni a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r iawndal i’w dalu i ddalwyr trwydded a pherchnogion y safle, ar sail gwerthiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf;
Adroddiadau o dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor gan gynnwys y rhai a ymgyrchodd yn erbyn adnewyddu trwyddedau (yr heddlu, hynafgwyr y capel, cefnogwyr ymgyrchoedd dirwestol), a’r rhai oedd eisiau i’r drwydded gael ei hadnewyddu, (y daliwr trwydded ac aelodau eu teulu, a chynrychiolwyr cyfreithiol)
Disgrifiadau manwl o’r safle (swyddogaeth a maint pob ystafell, gan gynnwys tai allan, stablau ac ati.)
Anfonebau a Derbynebau am daliadau a wnaed gan y Pwyllgor gan gynnwys taliad iawndal a chostau cyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus am y cyfarfodydd.
Deisebau a arwyddwyd gan lawer o bobl sy’n cefnogi adnewyddu trwyddedau dau dafarndy.
Llythyr wedi’i argraffu gan Gynghrair Amddiffyn Tafarnwyr Cymru a Lloegr i Glerc yr Awdurdod Iawndal yn mynegi pryder am ‘Ddiddymiad Trwyddedau’
Mae’r bwndel hwn yn cynnwys papurau ar gyfer y tafarndai canlynol:
Blue Bell Inn, Llandysul
Carpenter’s Arms, Ffynonsaer, Tregroes
Cilgwyn Arms, Llandysul
Cross Roads, Henllan / Llandyfrïog
Crown and Anchor, Tregaron
Gwernant Arms, Rhydlewis
Ivy Bush, Aberteifi
New Market Tavern, Stryd y Farchnad, Aberystwyth
Old Crown Inn, Tregaron,
Pritchard Arms, Aberteifi
Red Lion Inn, Ffos-y-ffin
Trewern Arms, Aberporth
Railway Refreshment room, Llanbedr Pont Steffan

Cyfeiriaduron masnach
Gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn, ond yn aml maent ond yn cynnwys tafarndai yn y prif drefi.

Papurau newydd
Mae’r papurau newydd lleol yn cynnwys sawl cyfeiriad at dafarndai. Mae’r rhan fwyaf o bapurau newydd Cymru ar gael ar-lein (1809- 1910, 1914-1919) yn Papurau Newydd Cymru Arlein. Mae llawer o’r cyfeiriadau at achosion llys, sy’n ymwneud â meddwdod, gwerthu alcohol i rywun meddw ac ymladd yn y tafarndy, ond maen nhw hefyd yn cynnwys rhai rhestrau o’r trwyddedau a roddwyd i dafarndai, ond yn aml dim ond lle mae’r rhestr yn fer.

FFYNONELLAU ERAILL

Rhenti Nanteos (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Roedd Nanteos yn berchen ar sawl darn o dir yn Aberystwyth y codwyd adeiladau arnynt. Mae rhestr y rhenti a dalwyd bron yn gyflawn ar gyfer 1772-1854. Mae’n cynnwys ambell i friwedd-dy a thafarndy heb eu henwi, ond mae’n cynnwys hefyd ambell i dafarn wedi’u henwi fel y Talbot Inn, sef eu heiddo mwyaf gwerthfawr yn y dref am £120 y flwyddyn (roedd y rhan fwyaf o dafarndai’n talu £5 i £50 y flwyddyn).

Rhestr o safleoedd y darparwyd dŵr iddynt gan Gomisiynwyr Gwella Aberystwyth, 1837-1865 (Archifdy Ceredigion)
Roedd llawer o dafarndai’n bragu eu cwrw eu hunain a daeth hyn yn broblem pan gyflenwyd dŵr pibell am y tro cyntaf i’r dref o 1835 ymlaen. Ym 1837, gofynnwyd i’r swyddogion tollau ddarparu gwybodaeth i Gomisiynwyr Gwella Aberystwyth (a osododd y cyflenwad dŵr) ynghylch swm y cwrw oedd yn cael ei fragu gan westywyr a thafarnwyr trwyddedig yn y dref er mwyn i’r Comisiynwyr allu rheoleiddio swm y rhenti i’w talu am y cyflenwad dŵr.
Gweler hefyd Gorchmynion ac Achosion Comisiynwyr Gwaith Gwella a Dŵr Aberystwyth, NLW , ABR, B2(a), 14 Tachwedd 1837

Rhestr Pratt.
Roedd Cymdeithasau Cyfeillgar yn aml yn cwrdd mewn tafarndai (oni eu bod yn llwyrymwrthodwyr).
Penodwyd John Tidd Pratt i roi Cofrestr o Gymdeithasau Cyfeillgar at ei gilydd, o 1846 ymlaen. Mae gan The Original List yn yr Archifdy Cenedlaethol yn Llundain ychwanegiadau i’r llawysgrif. Roedd o leiaf 73 o dros 200 o Gymdeithasau Cyfeillgar adnabyddus yng Ngheredigion yn cwrdd mewn tafarndai a thai tafarn.

Rhestr o’r holl drwyddedau a roddwyd i werthu diodydd meddwol yng nghant Ilar, 1889-1924 (Archifdy Ceredigion, TPS/LLI/1/7).
Mae hon yn rhestru trwyddedau a roddwyd bob blwyddyn, ar gyfer pob safle yn y cant; enw a chyfeiriad y perchennog; enw’r daliwr trwydded; ac a drosglwyddwyd y drwydded, dyddiad y trosglwyddiad ac enw’r person y cafodd ei drosglwyddo iddo, ac unrhyw drosedd y cafwyd y daliwr trwydded yn euog ohoni. Dyma un o’r ychydig iawn o gyfrolau o’i math i oroesi. Rhaid y bu gan bob Cant (grŵp o blwyfi) sawl cyfrol o’r math hwn a byddent wedi darparu cofnodion manwl iawn o newidiadau mewn perchnogion a dalwyr trwydded. Mae cyfrol arall o’r math hwn yn bodoli ar gyfer Llandysul (Archifdy Ceredigion).

Ffurflenni’r Cyfrifiad
Cymerwyd y rhain bob 10 mlynedd o 1801 ymlaen, ond dim ond y rhai o 1841 ymlaen sy’n rhestru enwau a swyddi’r holl bobl mewn tafarndy penodol ar noson y cyfrifiad. Mae rhannau o gyfrifiad 1861 ar goll. Golygai pwysau gan yr anghydffurfwyr a’r llwyrymwrthodwyr nad oedd rhai pobl o reidrwydd yn cofnodi eu prif swydd fel landlord tafarndy neu fragwr.

Cyfeiriaduron Topograffigol
Darparodd y rhain wybodaeth i deithwyr am wasanaethau hanfodol oedd eu hangen arnynt wrth deithio ledled Prydain. Weithiau, roedden nhw’n rhestru tai tafarn, ond mewn sawl tref dim ond un neu ddwy oedd, felly nid oedd hi’n hanfodol eu henwi.

Arweinlyfrau
Lluniwyd y rhain ar gyfer twristiaid yn bennaf. Maen nhw’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 18fed ganrif ac yn aml yn rhestru’r prif dai tafarn ym mhob tref, ond nid tafarndai. Mae rhai’n cynnwys hysbysebion ar gyfer gwestai a thai tafarn.

Papurau cyfreithiol
Gallai’r rhain gynnwys manylion achosion llys yn ymwneud â gwerthu alcohol y tu allan i oriau agor arferol; meddwdod, ymladd ac ati ond byddai’r rhan fwyaf o’r wybodaeth hon wedi’i chyhoeddi mewn papurau newydd.

Papurau ystadau
Gallai’r rhain gynnwys gwybodaeth am berchnogaeth tafarndai ac ati a phrydlesi i landlordiaid

Rhestrau cyfraddau’r plwyfi
Mae rhai o’r rhestrau o bobl oedd yn talu trethi yn Aberystwyth rhwng 1798-1850 yn cynnwys enwau tafarndai, ond nid yw llawer ohonynt yn gwneud. Yn y 1820au, o’r 60 eiddo trethadwy ar y Stryd Fawr, roedd 18 yn dafarndai.