N.B. Some pubs do not appear on the maps as we do not have a definite location for them.
Reminiscences of the Half Way / Atgofion yr Half Way, Tre'r Ddôl
Source: Lloffion Llangynfelyn rhif 5, Ebrill 1957
Date: 1957
Copyright: Type: Document
Description: Memories of the Half Way from an article in the local newsletter when it closed in 1957
Transcript:Yr "Halfway Inn”, Tre'rddol.
Nos Sadwrn, Mawrth 30, caewyd yr Halfway Inn gan y perchnogion. Y mae i'r hen westy hwn hanes go ddiddorol. Onid Hugh Rowlands Halfway House (tad-cu Humphrey Jones y Diwygiwr) a gymhellodd Edward Jones, Bathafam, a William Parry, Ilandygai, i bregethu yn Nhre'rddol yn 1804? Pregethwyd ganddynt "wrth ysgubor a oedd gerllaw y bont", a dyna ddechrau Wesleaeth yn y pentref. Bu Hugh Rowlands fyw yn yr Halfway House hyd ei farw yn 1857.
Cyn sefydlu Cynghorau Plwyf yn 1894- rheolid rhai pethau lleol gan y "Festri". Mae hen gofnodion Festri Langynfelyn yn ymestyn yn ol i 1847 ar gael, ac ynddynt gwelir mai yn yr "Halfway" y cynhelid hwy gan amlaf. Ynddynt gelwir y gwesty yn "Halfway House" hyd tua 1853. Yn 1854- ac 1855 gelwir ef yn Boar’s Head. Rhwng 1856 a 1866 gelwir ef weithiau yn Halfway Inn ac weithiau yn Halfway House. Ar 3l 1866 mae’r enw Halfway Inn wedi ymsefydlu. O 1877 ymlaen cofnodir bod y Festri’n cwrdd yn y "Magistrates Room".
Y mae hyn yn ein hatgoffa o’r ffaith fod Llys yr Ynadon (Petty Sessions) yn arfer cyfarfod yn fisol yn y Magistrates Room yn yr Halfway Inn hyd nes y'i symudwyd i Dal-y-bont tuag wythdegau’r ganrif ddiwethaf. Y mae dwy Ystafell Ynadon - un yn yr hen ran o’r gwesty (y parlwr bach) a’r ystafell hir yn y rhan newydd. Tu ol i'r gwesty, mae un o gaeau Dolcletwr, cae o naw erw, a elwir Cae Cwrt.
Dywedir yn eithaf naturiol i’r gwesty gael yr enw Halfway oherwydd ei fod hanner y ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth ac yng nghyfnod y Goets Fawr arferid newid y ceffylau yno. Dywedir bod y Goets o Aberystwyth yn cyrraedd yno tua 12 o’r gloch ac y byddai'r corn yn canu o hirbell i rybuddio ei fod ar gyrraedd, ac i baratoi cinio.
Mrs.M.J.Evans a fu'n gofalu am y lie am y deng mlynedd diwethaf. Cyn hynny cedwid ef gan Mr.John Rees a'i briod, Mrs.Jane Rees, am gyfnod o 64 « o flynyddoedd. Gosodwyd y gwesty iddynt gan yr Esgob Basil Jones; yr adeg honno perthynai i ystad y Gwynfryn. Dau arall a fu'n gofalu amdano cyn hynny oedd Mr.John Jones (y Royal Oak, wedi hynny) a Mr.Hazel, siopwr o Fachynlleth.
Diwrnod mawr yn yr Halfway Inn hyd yn gymharol ddiweddar oedd diwrnod Cinio Rhent, pan ddeuai tenantiaid y Gwynfryn ynghyd ddwywaith y flwyddyn, ym Mehefin a Thachwedd, i dalu'r rhent. Weithiau byddai cymaint a 90 yn eistedd i'r ginio a ddechreuai am un o'r gloch. Yno ceid cig eidion a chig oen, stwmp pys a stwmp gwyn, bresych (ym Mehefin) a moron a rwden yn Nhachwedd. Wedyn ceid tarten a phwdin reis yn yr haf a phlwm pwdin a phwdin reis yn y gaeaf. Helpid Mrs.Rees gan Mrs.E.Roberts (Goitre a York House wedyn), Mrs.Pierce, Rock House, a Mrs.(Capt.) Joel, Rock House,yn oruchwyliwr arnynt oil.
Yr oedd Miss Ann Pritchard (Mrs.John Davies yn ddiweddarach) a gadwai siop yn y ty gyferbyn a Soar, (Home Leigh heddiw) yn bencampwr am wneud stwmp pys.' Byddai peth areithio ac yna yfid iechyd da teulu'r Gwynfryn.
Adeg arall pan fyddai’r Halfway Inn yn ganolfan hwyl a miri oedd adeg hela'r llwynog. Byddai Syr Edward Pryse, ei gyd-helwyr a’r cwn yn arfer galw yno. Gwr braidd yn ddiamynedd oedd ef, a rhaid bod wrth y drws yn ei ddisgwyl a phopeth yn barod, - y bar a menyn, y caws a’r ddiod !
Dyna godi peth ar y lien. Pwy a ddaw a rhagor o hanes yr hen westy sydd bellach ar gau?
Notes:Linked to Halfway Inn , Tre'r Ddôl